GWERTHWCH FWY DRWY DDEFNYDDIO’R CYFRYNGAU CYMDEITHASOL

Event Date: 29/11/2018 - 29/11/2018

Mae 90% o fusnesau yn codi ymwybyddiaeth brand gyda'r cyfryngau cymdeithasol. Mae'n ffordd hawdd iawn i godi'ch proffil, denu cwsmeriaid newydd ac ennill busnes newydd. Dangoswn i chi sut i fanteisio ar y cyfryngau cymdeithasol yn ein gweithdy a ariennir yn llawn.

Byddwch chi'n dysgu:

  • Sut i ysgrifennu postiadau mwy dengar
  • Sut i greu strategaeth cyfryngau cymdeithasol llwyddiannus i ennill busnes
  • Awgrymiadau i ddysgu pa ddulliau sy'n gweithio a pha rai nad ydynt yn gweithio
  • Llwyfannau cyfryngau cymdeithasol yn gynnwys Facebook, Twitter, Instagram, Pinterest, a LinkedIn
  • Defnyddio byrddau cyfryngau cymdeithasol fel Hootsuite a Buffer

Diolch am alw heibio. A yw'ch busnes yn BBaCh yng Nghymru, sy'n masnachu ar hyn o bryd ac wedi cofrestru gyda Companies House neu CThEM? Os felly, darllenwch ymlaen neu sgroliwch i lawr i archebu lle ar ddigwyddiad yn eich ardal chi:

Beth fyddwn ni'n ei ddarparu? 

  • Gweithdai busnes am ddim: dysgwch ffyrdd ymarferol o wneud y gorau o offer a thechnolegau ar-lein ar gyfer llwyddiannau cyflym a gwelliannau mawr.
  • Cymorth 1:1 wedi'i deilwra: cael sesiwn gyngor un-i-un gydag Ymgynghorydd Busnes Digidol i drafod anghenion eich busnes a chael cynllun wedi'i deilwra.
  • Adolygiad gwefan: cael adolygiad o'ch gwefan am ddim i ddod o hyd i feysydd y gallech eu gwella i gynyddu eich amlygrwydd ar-lein ac ymwybyddiaeth cwsmeriaid.

https://wales.business-events.org.uk/cy/digwyddiadau/cyflymu-cymru-i-fusnesau-gwerthwch-fwy-drwy-ddefnyddior-cyfryngau-cymdeithasol/

 

 






ID: 192 Adolygwyd: 14/11/2018