Digwyddiad Galw Heibio i Fusnesau Sir Benfro -27 Hydref 2023


Mae Cyngor Sir Penfro ac ystod o weithwyr proffesiynol cymorth busnes yn falch o gyhoeddi bod y digwyddiadau galw heibio misol i fusnesau yn dychwelyd yng Nghanolfan Arloesi'r Bont, Doc Penfro. Mae'r digwyddiad galw heibio i fusnesau yn cynnig cyfle i fusnesau gwrdd â chymorth busnes lleol, a mynd i'r afael ag unrhyw un o'u cwestiynau neu bryderon busnes wyneb yn wyneb â gweithwyr cymorth busnes proffesiynol.
Bwriedir cynnal y digwyddiadau hyn ar ddydd Gwener olaf pob mis rhwng 9am a 12pm.

 

Loteri Sir Benfro
Banc Datblygu Cymru
Cyngor Sir Penfro
Busnes Cymru
Busnes mewn Ffocws
Cyflymu Cymru i Fusnesau
Cwmpas
Creoso Sir Benfro
Landsker Business Solutions
Gweithffyrdd
Tîm Arloesi Llywodraeth Cymru
Gwaith yn yr Arfaeth


Gall y sefydliadau sy'n mynychu amrywio o fis i fis. Os hoffech siarad â rhywun yn benodol, rhowch wybod i ni ymlaen llaw drwy anfon e-bost at BusinessSupport@Pembrokeshire.gov.uk. Bydd cwestiynau ac ymholiadau'n cael eu trosglwyddo i'r sefydliad sydd fwyaf addas i'ch cynorthwyo.


Galwch draw am baned a sgwrs. Edrychwn ymlaen at eich croesawu.