Grŵp Rhyngweithio â Busnesau Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau

Event Date: 19/09/2019 - 19/09/2019

Ydych chi am ddechrau busnes newydd neu dyfu busnes sy'n bodoli eisoes? Ydych chi'n gwybod pa gymorth sydd ar gael ichi ac i'ch busnes?

 

Ymunwch â ni yn y digwyddiad nesaf i'w chynnal gan Grŵp Rhyngweithio â Busnesau Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau, ar y cyd â Busnes Cymru. Bydd yn gyfle ichi gyfarfod â Thîm Swyddfa Ranbarthol Llywodraeth Cymru yn y Canolbarth a'r De-orllewin, â swyddogion Busnes Cymru, a chydag eraill sy'n cynnig cymorth ac a all roi cyngor i'ch helpu i ddechrau busnes neu i dyfu'r busnes sydd gennych yn barod.   

 

Cewch ddysgu am y mathau gwahanol o gymorth sydd ar gael i'ch busnes. Bydd cyfle hefyd i glywed am ddatblygiadau cyffrous yn Sir Benfro, gan gynnwys datblygiadau sy'n bosibl bellach mewn rhannau o Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau oherwydd bod y Rhyngrwyd Pethau ar gael. 

 

Cynhelir y digwyddiad ddydd Iau, 19 Medi yng Nghanolfan Arloesi'r Bont, Doc Penfro. Bydd anerchiad agoriadol am 9:00am ac yna cyfle i ymweld â'r ardal arddangos rhwng 9:15am a 11:00am. I gofrestru ar gyfer y digwyddiad cliciwch yma https://bit.ly/2GIPLfz

 

Dyma rai o'r sefydliadau a fydd yn arddangos:

 

  • Banc Datblygu Cymru
  • Focus Hub Caerfyrddin
  • Busnes Cymdeithasol Cymru
  • GwerthwchiGymru
  • Busnes Cymru
  • ION Leadership
  • Coleg Sir Benfro
  • Llywodraeth Cymru
  • Coleg Sir Gar
  • Loteri Sir Benfro
  • Croeso Cymru
  • PLANED
  • Cyflymu Cymru i Fusnesau
  • Siambr Fasnach De Cymru
  • Cymraeg Byd Busnes
  • Tarian - yr Uned Ranbarthol Troseddu Cyfundrefnol
  • Cyngor Sir Caerfyrddin
  • WRAP Cymru
  • Cyngor Sir Penfro
  • Y Rhyngrwyd Pethau
  • Ffederasiwn y Busnesau Bach
 

 

Mae'r bore hwn yn sicr o fod yn un na fydd pobl am ei golli, felly ewch ati 'nawr i sicrhau'ch lle ‒ rydym yn rhagweld y bydd lleoedd yn cael eu llenwi'n gyflym.

Lawrence Humphreys

Swyddog Ardaloedd Menter / Enterprise Zones Officer

Ffôn symudol / Mobile number: 07799 621176

 

Busnes Cymru
Uned 14/15,
Heol Oldfield,
Parc Bocam,
Pencoed,
Pen-y-bont ar Ogwr,
CF35 5LJ

Ffôn 01656 868500

Business Wales
Unit 14/15,
Oldfield Road,
Bocam Park,
Pencoed,
Bridgend,
CF35 5LJ

Phone 01656 868500






ID: 214 Adolygwyd: 4/9/2019