BLE MAE ARLOESEDD YN DECHRAU
Hanfod arloesedd yw creu cynhyrchion, prosesau, gwasanaethau, technolegau, neu syniadau gwell neu fwy effeithiol sy'n cael eu derbyn gan farchnadoedd a chymdeithas. Mae arloesedd yn wahanol i ddyfeisio yn gymaint â bod arloesedd yn cyfeirio at ddefnydd syniad neu ddull newydd, tra bod dyfeisio'n cyfeirio'n fwy uniongyrchol at greu'r syniad ei hun.
Canolfan Arloesedd y Bont yw prif leoliad Sir Benfro ar gyfer ysgogi arloesedd mewn busnesau. Rydym yn darparu amgylchedd trawiadol ar gyfer arloesedd a thwf busnesau, gan roi cyfleoedd i rannu gwybodaeth, cydweithio a rhwydweithio, yn cael ei gefnogi gan wasanaethau cyngor busnes ar y safle a mynediad at gymorth technegol academaidd o ansawdd uchel. Mae Canolfan Arloesedd y Bont yn cynrychioli'r cyfan sy'n gadarnhaol i fusnes, arloesedd a menter yn Sir Benfro.
Mae yna nifer o themâu allweddol i Ganolfan Arloesedd y Bont, sef:-
- Busnes
- Ymchwil
- Arloesedd a deori
- Datblygu
- Twf
- Menter ac entrepreneuriaeth
Os yw'ch busnes yn ffynnu ar y cysyniadau hyn neu os oes gyda chi syniad ar gyfer busnes ond nad ydych yn gwybod ble i gychwyn, yna gall Canolfan Arloesedd y Bont helpu.
Bydd Canolfan Arloesedd y Bont yn gweithredu fel canolbwynt i roi cymorth i'ch busnes dyfu a datblygu.
Yn darparu swyddfeydd ardderchog, cysylltedd Rhyngrwyd a chyfathrebu 100Mb o ansawdd uchel, gyda chysylltiadau ymchwil â Phrifysgolion, Colegau a chymorth a chyngor busnes ar y safle, mae Canolfan Arloesedd y Bont:
- Yn annog ac yn cefnogi cychwyn, deori a thyfu busnesau sy'n seiliedig ar wybodaeth;
- Yn darparu amgylchedd ble gall busnesau rwydweithio;
- Yn datblygu partneriaethau ac yn rhyngweithio gyda chanolfannau rhagoriaeth a chreu gwybodaeth er budd pawb;
- Â chysylltiadau ffurfiol a gweithredol gydag addysg uwch.
Mae Canolfan Arloesedd y Bont wedi'i lleoli ym Mharc Gwyddoniaeth a Thechnoleg Sir Benfro.
Mae Parc Gwyddoniaeth a Thechnoleg Sir Benfro wedi'i bartneru â Phrifysgol Abertawe. Mae gyda'r Brifysgol gyfleusterau yn y Parc sy'n eu galluogi i gynnal ymchwil gan ddefnyddio'r cyfarpar cyfrifiadura perfformiad uchel mwyaf modern a diweddar. Gyda hyn mae'r Parc i ddod yn gartref i'r ail o'r ddwy brif ganolfan gyfrifiadura perfformiad uchel i brosiect Cyfrifiadura Perfformiad Uchel Cymru, gan ddod â gwasanaethau Cyfrifiadura Pŵer Uchel o fewn cyrraedd i bob busnes ni waeth be fo'u maint a'u hadnoddau mewnol.
Mae Prifysgol Abertawe'n cefnogi'r Parc Gwyddoniaeth a Thechnoleg hefyd gydag arweinyddiaeth a rheolaeth busnes, ymchwil, cyfnewid gwybodaeth ac arloesedd.
|
Mae Canolfan Arloesedd y Bont yn eiddo i ac yn cael ei rheoli gan Gyngor Sir Benfro fel rhan o'i ymrwymiad parhaol i gefnogi busnes, gwyddoniaeth a thechnoleg yn y Sir. |
ID:
4
Revised:
18/6/2024