Ystafelloedd Cyfarfod
Mae'n hystafelloedd cyfarfod ar gael i'w hurio gan unrhyw fusnes sydd ag angen man urddasol i gwrdd â chleientiaid, i gynnal seminarau neu gyrsiau hyfforddi. Mae tair ystafell gyfarfod a dwy ystafell bwrdd ar gael. Gall pobl o'r tu allan hurio'r ystafelloedd hyn wrth y dydd. Mae modd addasu pob ystafell ac mae'n prisiau'n cynnwys offer clyweled. Gellwch archebu'ch ystafell gyfarfod yn amodol gyda'r dderbynfa trwy'n ffonio ni ar 01646689200 neu e-bostio pstp@pembrokeshire.gov.uk
Mae'n harlwywyr ar gontract yn darparu dewis o fwydlenni sy'n tynnu dŵr i'r dannedd ac sy'n addas ar gyfer amryw o achlysuron. Gellwch lawrlwytho'u bwydlenni yma .
Ystafell Bwrdd Llawr Cyntaf
Ystafell bwrdd y llawr cyntaf yw'n prif ystafell bwrdd. Mae lle ynddi i 20 o bobl yn gysurus ac mae yna gegin fach gyfagos ar gyfer darparu lluniaeth.
Ystafell Bwrdd Llawr Isaf
Mae lle yn yr ail ystafell bwrdd i 20 o bobl yn gysurus ar batrwm ystafell bwrdd neu 40 ar batrwm theatr.
Mae patrymau eraill fel pedol ceffyl, cyfweld a chabare ar gael ar gais.
ATRIWM
Mae'r Atriwm trawiadol ar gael i'w hurio ar gyfer digwyddiadau
Offer Clyweled
Mae'r offer clyweled canlynol ar gael ac mae wedi'i gynnwys yng nghost hurio'r ystafell.
- Teledu Sgrîn Fflat
- Bwrdd gwyn ôl-daflunio rhyngweithiol
- Taflunydd Digidol
- Siart Droi
- Fideo-gynadledda (ar gael ar gais IP yn unig)
Lawrlwythwch ein ffurflen archebu Ystafelloedd Cyfarfod.
Lawrlwythwch ein Bwydlenni Arlwyo.
Bwydlenni Arlwyo a Lluniaeth Canolfan Arloesedd y Bont
Cyfraddau ystafell 2024 - 2025
ID:
8
Revised:
23/3/2023