CYFLEUSTERAU
Byddech yn disgwyl i Ganolfan Arloesedd gynnig cyfleusterau o'r radd flaenaf ac ni fydd Canolfan Arloesedd y Bont yn siomi.
Mynediad i'r Ganolfan | Parcio | Derbynfa | Arlwyo | Rhyngrwyd | Ffonau | Ystafell Argraffu
Swyddfeydd | Unedau Gweithdy | Ystafelloedd Cyfarfod | Yr Atriwm | Arlwyo a Lluniaeth
Cawodydd | Glanfa Hofrenyddion | Patlib
Yng Nghanolfan Arloesedd y Bont rydym yn falch o'r cyfleusterau ansawdd uchel sydd gyda ni i'w cynnig i'r gymuned fusnes. Yn adeilad modern, helaeth gydag ystafelloedd cyfarfod niferus a swyddfeydd y gellir eu haddasu, rydym hefyd yn darparu:
- Cysylltiad Rhyngrwyd lled band cydamseredig uchel;
- Cyfnewidfa ffôn VOIP uchel-dechnoleg sy'n caniatáu i fusnesau fod â nifer o linellau deialu i mewn uniongyrchol;
- Gwasanaethau derbynfa;
- Gwasanaethau cymorth busnes;
- Mynediad at: cyfrifiadura perfformiad uchel, labordy electroneg ac addysg uwch ar gyfer cyfleoedd trosglwyddo gwybodaeth,
Lawrlwythwch ein Dalen Ffeithiau am y Cyfleusterau
Mynediad i'r Ganolfan
Mae'r preswylwyr yn cael defnyddio'u swyddfeydd 24/7 - unrhyw adeg o'r dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Mae mynediad i'r adeilad trwy allwedd electronig gyda chlo traddodiadol ar swyddfeydd unigol.
Ar Gael Nawr
Parcio
Mae digon o leoedd parcio am ddim yng Nghanolfan Arloesi'r Bont, rhai wedi'u lleoli ar y safle a lleodd ychwanegol ar gael yn y maes parcio gorlif, sydd tua 100 metr i ffwrdd o Ganolfan Arloesi'r Bont.
Derbynfa
Bydd ymwelwyr sy'n galw yn ystod oriau swyddfa (8.30am - 5.30pm) yn cael eu cwrdd gan ein tîm derbyn, a fydd yn rhoi gwybod i chi fod eich ymwelydd wedi cyrraedd. I gael rhestr lawn o wasanaethau derbyn, lawrlwythwch ein Taflen Ffeithiau Gwasanaethau Derbyn.
Mae staff ymroddedig Canolfan Arloesedd y Bont wedi cymhwyso i roi Cymorth Cyntaf felly os digwydd damwain yn y gwaith rydym yn gallu gofalu amdanoch chi, eich staff a'ch ymwelwyr.
Rhyngrwyd
Mae aelodau sy'n defnyddio Canolfan Arloesedd y Bont yn cael defnyddio'r gwasanaethau lled band uchaf yn y Sir gyda ffrwd o 100mb. Mae gwasanaeth WiFi'r Ganolfan i'w gael yn y rhan fwyaf o'r adeilad hefyd. Gofynnwch wrth y dderbynfa am yr allwedd i gyrchu'r cyfleuster WiFi.
Ffonau
Mae gyda Chanolfan Arloesedd y Bont system ffôn Mitel VOIP wedi'i gosod a neilltuir llinellau a rhifau penodol ar gyfer pob tenant. Ar ddiwedd pob mis mae'r tenantiaid yn derbyn anfoneb am gostau'r galwadau a gafwyd.
Mae'n bosibl i bob swyddfa fod â chysylltiad BT preifat petai unrhyw denant yn dewis peidio â derbyn gwasanaeth ffôn neu ryngrwyd y Ganolfan.
Ystafell Argraffu
Wedi'i lleoli'n union y tu fas i Swyddfa'r Rheolwr, mae gyda'r ystafell argraffu gyfleusterau rhwydweithiol ar gyfer argraffu lliw, copïo lliw a sganio. Rhoddir rhif côd i bob defnyddiwr ac yna codir tâl ar y tenant am yr hyn a ddefnyddiwyd ar ddiwedd bob mis.
Mae'r cyfleusterau eraill yn yr ystafell argraffu yn cynnwys lamineiddiwr, rhwymwr crib a ffacs.
Swyddfeydd
Mae dewis o 23 o swyddfeydd moethus (o 300 - 1,000 troedfedd sgwâr) am brisiau hollgynhwysol cystadleuol.
Desgiau Penodedig a Desgiau Poeth
Wedi danto ar weithio ar ford eich cegin? Mae lleoedd cydweithio'n lle delfrydol i fusnesau sy'n cychwyn a busnesau sydd newydd gychwyn, i ddianc o fodd bord y gegin a symud i amgylchedd mwy proffesiynol a thrawiadol. Mae Indycube yn Gwmni Buddiannau Cymunedol sy'n rhedeg nifer o leoedd cydweithio ar y cyd ar draws Cymru ac maen nhw'n rhedeg ein lle cydweithio fel partneriaid â ni. Mae desgiau poeth yn costio £12.00 y dydd, i'w dalu bob tro y cânt eu defnyddio. Trwy ymuno ag amgylchedd Indycube yng Nghanolfan Arloesedd y Bont, rydych yn cael mwynhau'r Rhyngrwyd cyflym a gellwch ymuno â system ffôn Canolfan Arloesedd y Bont i gael eich rhif ffôn busnes penodedig eich hun. I gael gwybod mwy am Indycube cliciwch yma.
Unedau Gweithdy
Mae gyda Pharc Gwyddoniaeth a Thechnoleg Sir Benfro dair ar ddeg o unedau sy'n addas ar gyfer busnesau technoleg sydd ag angen gweithdy, ac mae'u maint yn amrywio o 1500 troedfedd sgwâr i 3000 troedfedd sgwâr. Mae i'r unedau hyn y potensial hefyd i gael eu haddasu'n swyddfeydd deulawr, gan ddyblu'r arwynebedd llawr sydd ar gael i bob pwrpas. Mae'r unedau hyn yn ddelfrydol ar gyfer twf mas o'r Ganolfan Arloesedd.
Ystafelloedd Cyfarfod
Mae tair ystafell gyfarfod a dwy ystafell bwrdd ar gael. Gall pobl o'r tu allan hurio'r ystafelloedd hyn wrth y dydd hefyd. Maen nhw'n cael eu harchebu'n amodol gyda'r dderbynfa ac yna rhaid cwblhau ffurflen archebu ystafell gyfarfod. Gellir trefnu arlwyaeth ar gyfer cyfarfodydd, mae prisiau ar gael ar gais.
Lawrlwythwch ffurflen archebu ystafell gyfarfod
Yr Atriwm
Mae Atriwm Canolfan Arloesedd y Bont yn cynnig man cyfarfod delfrydol ar gyfer rhwydweithio ac ymneilltuo neu gyfarfodydd anffurfiol. Mae WiFi i'w gael yn yr amgylchedd anffurfiol digyffro hwn ac felly mae'n lle delfrydol i alw heibio i eistedd a gweithio dros goffi neu i gael sgwrs â chydweithiwr neu ymwelydd.
Arlwyaeth a lluniaeth
Mae dewis o gyfleusterau arlwyo ar gael ar alwad gan yr arlwywyr ar gontract sy'n bartneriaid inni, yn cynnwys te, coffi, bisgis, teisennau a lluniaeth bord ar gyfer eich cyfarfodydd; mae'n harlwywyr yn darparu amrywiaeth eang o frecwastau a chiniawau bwffe blasus hefyd.
Lawrlwythwch y bwydlenni arlwyo a lluniaeth »
Cawodydd
I'r rheini sy'n hoff o wneud rhywfaint o ymarfer corff i losgi'r calorïau amser cinio, neu feicio'n ôl a blaen i'w gwaith, mae cawodydd ar gael fel eich bod yn gallu ymolchi'n barod i fynd at eich desg.
Glanfa Hofrenyddion
Mae ceisiadau i ddefnyddio Glanfa Hofrenyddion Parc Gwyddoniaeth a Thechnoleg Sir Benfro i'w gwneud trwy Dderbynfa Canolfan Arloesedd y Bont ar 01646 689200.
ID:
5
Revised:
18/6/2026


